Meet Aelama /Dyma Aelama

 

Aelama lives in Gunjur, The Gambia. She didn’t have an easy start to motherhood, as her baby was born premature and suffered from ill health.

United Purpose supported Aelama through her local Mother’s Club – a collective support system for mothers in her community that provides information about nutrition, growing bio-fortified crops, and recipe ideas:

“Before, our diet was just carbohydrate-based. The cooking demos [at the mother clubs] have shown me different food groups to combine to create balanced dishes that meet our nutrition needs. I want to grow other crops and expand my land, as well as sell my African Leafy Vegetables in bulk to get a better price, this growth will pay for the welfare of my children.”

Aelama has grown in confidence and now enjoys sharing her experiences and cooking ideas with other mothers: “The best dish we now make includes Plasas, African Leafy Vegetables, Orange Flesh Sweet Potato and Moringan, it is a super stew!!”

United Purpose supported 120 Mother’s Clubs across The Gambia, with 6,000 members, with funding from the Welsh Government. Families like Aelama’s are now healthier and more resilient to COVID-19 and other illnesses.


Mae Aelama yn byw yn Gunjur, Y Gambia. Doedd bywyd fel mam ddim yn hawdd i Aelama ar y dechrau gan fod ei babi wedi ei eni’n gynamserol ac yn dioddef o afiechyd.

Cefnogodd United Purpose Aelama trwy ei Chlwb Mamau lleol – system cymorth ar y cyd i famau yn ei chymuned sy’n darparu gwybodaeth am faeth, tyfu cnydau bio-gaerog a syniadau am ryseitiau:

“O’r blaen, roedd ein deiet yn seiliedig ar garbohydrad yn unig. Mae’r arddangosiadau coginio [yn y clwb mamau] wedi dangos gwahanol grwpiau bwyd i mi eu cyfuno i greu prydau cytbwys sy’n diwallu ein hanghenion maeth. Rydw i eisiau tyfu cnydau eraill a chael mwy o dir, yn ogystal â gwerthu swmp o lysiau deiliog Affricanaidd i gael pris gwell. Bydd y cynnydd hwn yn talu am les fy mhlant”.

Roedd Aelama hefyd yn awyddus i rannu hoff bryd bwyd ei theulu: “Mae’r pryd gorau rydyn ni’n ei wneud nawr yn cynnwys plasas, llysiau deiliog Affricanaidd, tatws melys cnawd oren a moringa. Mae’n stiw gwych!!”

Cefnogodd United Purpose 120 o Glybiau Mamau ar draws y Gambia, gyda 6,000 o aelodau, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae teuluoedd fel teulu Aelama’n bellach yn iachach ac yn fwy gwydn I COVID-19 a salwch eraill